Gertrud Kolmar (1894-1943)

‘Aus dem Dunkel’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

O’r tywyllwch y deuaf, yn fenyw feichiog,
ond pwy biau’r plentyn nis gwn erbyn hyn;
gwyddwn unwaith.
Does gennyf yr un gŵr mwyach . . .
maent i gyd wedi suddo y tu ôl imi
fel nentydd a lyncwyd gan y ddaear.
Af ymlaen, gymaint yw f’awydd
i gyrraedd y mynyddoedd cyn y wawr,
a’r sêr eisoes yn diflannu.

O’r tywyllwch y deuaf.
Cerddais trwy lonydd tywyll unig.
Yna’n sydyn rhuthrodd golau ymlaen
gan rwygo’r duwch meddal
fel llewpard yn ymosod ar ewig,
a phoerodd drws agored led y pen
sgrechian aflafar, udo ofnadwy, rhuo anifeilaidd.
Igam-ogamai meddwon . . .
Ysgwydais hynny i ffwrdd o odre fy ffrog.

A cherddais ar draws y farchnad wag.
Nofiai dail ar wyneb pyllau a adlewyrchai’r lleuad.
Arogleuai cŵn tenau, barus ysbwriel ar y cerrig crynion.
Pydrai ffrwythau wedi’u sathru
ac arteithiai o hyd hen ŵr mewn carpiau ei ffidil druenus
gan ganu â llais tenau, amhersain, cwynfannus,
heb neb yn gwrando arno.
Roedd y ffrwythau cynt wedi aeddfedu dan yr haul a’r gwlith,
yn breuddwydio o hyd am bersawr a hwyl y blodau annwyl,
ond roedd y cardotyn a riddfanai wedi hen anghofio hynny,
yn ymwybodol o ddim ond newyn a syched.

Sefais o flaen caer y pŵerus,
ac wrth i mi gamu ar y ris isaf
craciodd y porffyri cnawtgoch o dan fy ngwadn –
trois ac edrych i fyny i’r ffenestr noeth,
i gannwyll hwyr y synfyfyriwr
a feddyliai o hyd heb gael ateb byth i’w gwestiwn,
ac i lamp orchuddiedig y claf
na ddysgasai eto sut y dylai farw.
O dan fwâu’r bont ffraeai dau sgerbwd dychrynllyd
am aur.
Codais fy nhlodi fel tarian lwyd o flaen fy wyneb
a mynd yn ddianaf heibio.

Yn y pellter siaradai’r afon â’i glannau.

Nawr baglais i fyny’r llwybr caregog, gwrthnysig.
Clwyfodd sgri’r graig a llwyni pigog fy nwylo dall a phetrus:
disgwyliai ogof a letyai yn ei gagendor dyfnaf
y gigfran ac arni wawr o wyrdd ond dim enw.
Yno af i mewn ac o dan dduwch yr aden gysgodol
gyrcydu a gorffwys
a gwrando’n bendrwm ar air mud sy’n mynd yn uwch
fy mhlentyn
a chysgu gan blygu fy mhen tua’r dwyrain
tan y wawr.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024