O dywed, fardd, beth rwyt ti’n ei wneud?

Rainer Maria Rilke (1875-1926)

‘O sage, Dichter, was du tust?’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

O dywed, fardd, beth rwyt yn ei wneud? – Clodforaf.
Ond yr angheuol a’r afluniaidd,
sut wyt ti’n dygymod â hwy a’u derbyn? – Clodforaf.
Ond y dienw a’r anhysbys,
sut wyt ti’n eu henwi, fardd? – Clodforaf.
A sut bydd y distawrwydd a’r gwylltineb
megis sêr a storm yn d’adnabod? – Am imi glodfori.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023