Noson o hydref

Gertrud Kolmar (1894-1943)

‘Herbstnacht’, addasiad* o gerdd Hebraeg ‘Tikun Chazot’ gan Chaim Bialik (1873-1934)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Nos stormus. Sisialodd y gwynt
a thynnu’r cwmwl yn wyllt dros y dref.
Plymiodd yr holl adeiladau
a suddo i gwsg a llaid tywyllwch.

Fel plentyn amddifad anghofiedig
heb ei lapio ers tro â thynerwch
y griddfanodd y tai noeth yn isel
a phlygu gan gywilydd.

Llifa glaw ac yf y muriau
eu llond o afonydd o ddagrau;
Daw’r toi yn alar tyner
a llefain o hyd y mae’r dref.

Ac uchod nid oes seren wedi dianc,
ni ddisgleiria gwreichionyn,
dim ond golau yn ffenestr dyn selog
sy’n codi i’w alarnad ganol nos.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2025

Nodyn: Honnodd Kolmar mai cyfieithiad rhydd oedd ond gw. Shira Miron, ‘Gertrud Kolmar und Chaim Nachman Bialik – Formen literarischer Renaissance zwischen Aggadah und Poesie’, yn Bettina Banasch a Petro Rychio (goln.), Formen des Magischen Realismus und der Jüdischen Renaissance (2021, Internationale Schriften des Jakob-Fugger-Zentrums, 3), tt. 117-142 (119-123),
https://www.academia.edu/57207651/Gertrud_Kolmar_und_Chaim_Nachman_Bialik_Formen_literarischer_Renaissance_zwischen_Aggada_und_Poesie