Newyddion Tachwedd 2025

CERDDI

Darllenir y gerdd ‘Statuenwälder’ ynghyd â’r cyfieithiad Saesneg gan Mary Burdett-Jones yn ‘Sgwrs rhwng Mary Lloyd Jones a Mary Burdett-Jones’/ ‘A conversation between Mary Lloyd Jones and Mary Burdett-Jones’:

‘Sgwrs rhwng Mary Lloyd Jones a Mary Burdett-Jones’

NOFEL

Mae nofel gyntaf Mary Burdett-Jones mewn proflenni.

SELMA MERBAUM

Cyhoeddwyd Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941, cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones ynghyd â rhagymadrodd, gan Melin Bapur. dolen i Melin Bapur

Ceir cyfieithiadau o’r saith cerdd gyntaf ar y wefan hon, gweler Cyfieithiadau. dolen i Cyfieithiadau – Selma Merbaum

Darllenwyd tair o’r cerddi, sef ‘Deilen grin’, ‘Cerdd’ a ‘Trasiedi’, gan Mary Burdett-Jones yng nghwrs cyfweliad â hi am y gyfrol ar raglen Dei Tomos, 22 Medi 2024.

Ceir erthygl am y gyfrol ar wefan nation.cymru. dolen i erthygl nation.cymru

Ceir marwnad Mary Burdett-Jones i Selma Merbaum ar ddiwedd y gyfrol uchod ac ar y wefan hon, gweler Cerddi – Marwnadau. dolen i farwnad Mary Burdett-Jones i Selma Merbaum