‘Jerusalem’
Else Lasker-Schüler (1869-1945)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Adeiladodd Duw o’i asgwrn cefn Balesteina,
o asgwrn unigol Jerusalem.

Crwydraf fel pe bawn mewn beddrod –
caregwyd ein dinas sanctaidd.
Gorffwysa meini yng ngwelyau ei llynnoedd marw
yn lle sidan y dŵr a chwaraeai yno: yn dod ac yn darfod.

Sylla tiroedd yn graff ar y crwydryn –
a sudda yn eu nosau serennog.
Mae arnaf ofn na fedraf ei orchfygu.

O na ddeuit . . .
wedi dy lapio yn dy got ysgafn Alpaidd –
a chymryd cyfnos fy nydd –
byddai fy mraich yn dy fframio, ddelw sanctaidd ddaionus.

Fel pan ddioddefais cynt dywyllwch y galon –
dy ddau lygad: cymylau glas
a achubodd fi o’m hiselder.
O na ddeuit –
i wlad yr hynafiaid –
byddet yn fy rhybuddio fel plentyn bach:
Jerusalem – profa atgyfodiad!

Croesewir ni
gan faneri byw yr ‘unig Dduw’,
dwylo sy’n glasu, sy’n hau anadl bywyd.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023