A. C. W. Staring (1767-1840)
‘Aan de maan’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
gyda Margriet Boleij
Dangos inni dy loywder, O leuad arian!
Cod o’r llyn,
gwena ar y llongwr ar daith,
tywynna yn garedig
ar lwybr tywyll cerddwyr.
Lle mae’r un a adawyd yn hiraethu’n ddiobaith,
lledaena dy belydrau.
Lle, ar ôl cwyn ffarwel ddigysur,
yr erys y cariad hapus wedi’r aduniad,
gad i d’oleuni dorri trwodd.
Hardd yw’r dydd pan gwyd ei danbeidrwydd
â phorffor brenhinol,
pan gyfarch â chân y rhai sydd wedi deffro!
Ond mae dy ddyfod yn felys i’r myfyrgar,
ti, sy’n disgleirio – ac yn distewi!
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023