Iddew tragwyddol
Gertrud Kolmar (1894-1943)
‘Ewige Jude’ (20 Medi 1933)
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Cluda f’esgidiau
lwch mil o strydoedd.
Dim gorffwys, dim gorffwys;
llusga fy ngham blin ymhellach fyth.
Yn erbyn y waliau
ni saif y fainc mwyach,
ymbalfalaf gyda bysedd ffôl
o gwmpas muriau fy nychweliad.
Cerrig milltir
y medr fy ffon weithiau bwyso yn eu herbyn.
Och, wylaf, och, wylaf
gan fy mod yn hen, hen ddyn.
F’asennau
caled ac amlwg, eisoes fel esgyrn meirwon –
y gwefusau crwn, llawn gwaed
sy’n poeri yn wyneb yr ymbiliwr!
Helwch y cŵn arno!
Does neb i trwsio’r rhwyg yn fy nghafftan.
Nid yw fy llygaid ond yn geudyllau lludw
y diffodda gwreichionyn coch pŵl ynddynt.
O’r astell y cymer dyn
grwstyn na fyddai neb arall yn ei fwyta.
A diolchaf a diolchaf
am y gallu i lowcio llwydni.
Ymlusgaf heibio
lleisiau dynol sydd yn fy sarhau.
Och, yr arwydd, yr arwydd melyn
y gwnïa eu golwg ar fy ngharpiau.
A yw fy nhalcen
wedi’i halogi gan ysgrifen ryfedd,
mor ddryslyd, mor flêr
nad yw mwyach yn cyfleu’r arwydd?
Rhaid bod
fy holl bechodau wedi’u hysgrifennu arno
gyda’r enwau a’r rhesymau;
gwelant hwy; nid fedraf mo’u gweld fy hun.
Galwch y cŵn.
Och, rwy’n hen, hen ddyn . . .
Curwch y clwyfau yn dragwyddol,
clwyfau angheuol un na fedr farw!
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2025