‘An Hölderlin’
Georg Heym (1887-1912)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Buost ti farw hefyd, do, fab y gwanwyn?
Ti, yr oedd dy fywyd fel fflamau llachar
yn disgleirio yn entrychion y nefoedd,
y mae’r ddynolryw o hyd yn ceisio’n ofer
ffordd allan ohonynt a rhyddid?

Buost ti farw. Oherydd iddynt ymestyn yn ffôl
tuag at dy fflam bur a’i diffodd
gan fod yn gas erioed
gan y bwystfil hwnnw fawredd.

Gadawodd Tynged i ddioddefaint diddiwedd
ddisgyn ar d’ysbryd tyner crynedig,
yna lapiodd duw ei fandiau tywyll
o gwmpas pen arteithiedig ei fab selog.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023