P. C. Hooft (1581-1647)

‘Geswinde grijsart die op wackre wiecken staech’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
gyda Margriet Boleij

Henwr chwim â’i hwyliau tyn yn hollti’r awyr fain
ac heb ostwng hwyl yn dal i deithio o flaen y gwynt
gan gyson adael pawb i syllu ar d’ôl,
gelyn marwol gorffwys yn troi a throsi ddydd a nos,

Amser diwrthdro barus, yn llyncu yn llawen,
yn traflyncu a threulio popeth a ymddengys yn gryf,
yn igam-ogamu a malu taleithiau a breniniaethau,
yn rhy gyflym i bawb – pam wyt ti mor araf imi?

’Nghariad, o d’eisiau yn bryderus y treuliaf amser cyndyn
gan yrru drwy waith y dyddiau hirion tuag at y nos.
Mae d’absenoldeb yn codi ofn arnaf,

ac ni all fy hiraeth symbylu Duw Amser –
ymddengys i hiraeth gael ei enwi felly oherwydd
bod yr amser ’rwyf am ei fyrhau, ’rwyf yn ei hirhau.


© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Traethodydd, Ionawr 2022, 6.