Friedrich Hölderlin (1770-1843)
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Rwyf wir yn dy garu ers tro byd
a hoffwn er mwyn hwyl d’alw yn fam
a’th anrhegu â chân anghelfydd,
ti, tref harddaf gwlad fy nhadau a welais erioed.
Fel yr hed aderyn y coed dros y copaon
y neidia’r bont yn rhwydd ac yn egnïol dros yr afon
lle mae’n disgleirio heibio iti,
pont sy’n atseinio gan gerbydau a phobl.
Unwaith, fel petai wedi’i anfon gan dduwiau,
cydiodd rhyw hud ynof
wrth imi groesi’r bont,
llithiwyd fi gan bellter i’r mynyddoedd.
A symudai’r llanc, yr afon
fodlon o drist, i’r gwastadedd, fel y bydd
y galon ry hardd iddi hi ei hun er mwyn darfod mewn cariad
yn ei thaflu ei hun i lifeiriant amser.
Rhoddaist i’r ffoadur
ffynhonnau a chysgodion claear
a gwyliai’r glannau i gyd ef
ac o’r tonnau crynai eu llun annwyl.
Ond bargodiai’r cawr o gaer, prawf o ffawd,
ymhell dros y cwm i’r llawr,
wedi’i rhwygo gan stormydd;
ond arllwysai’r haul tragwyddol
ei oleuni adfywiol dros y llun o’r cawr
sy’n heneiddio; ac o gwmpas glasai’r iorwg byw:
siffrydai coed cyfeillgar
uwch y gaer i’r ddaear lawr.
Blodeuai llwyni hyd lawr y dyffryn llon
ac ar y llethrau neu ar y lan annwyl
y gorwedd dy strydoedd llawen
o dan erddi persawrus.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024