(i Gwenllian Spink)

Glaniodd gwyfyn cynffon gwennol
ar gwch a saernïwyd i hedfan ar draws y môr,
crysalis wedi esgor
ar greadur cyfliw â phrennau’r trofannau –
ysbryd y taid yn hedfan liw dydd a liw nos.

Trochwyd mantell goch mewn pwll heli
a’i hadenydd yn friw gan y gwynt,
eu sibrwd yn atseinio â chalon wan siffrwd y môr;
sychodd yr haul ei dagrau –
ysbryd y tad yn ymadael.

Crisialir cysgod gwyfyn mewn pren,
fframwaith deilen sy’n hedfan.

Crisialir cysgod glöyn byw mewn pren,
ysbrydoliaeth ffenestri lliw tryloyw.

Hedfana gwyfyn gwennol
ymhell ar draws dŵr galar
a’i fryd ar ddychwelyd.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Traethodydd, Ionawr 2023, [5].

‘Swallow Moth’ Gwenllian Spink