Else Lasker-Schüler (1869-1945)

‘Mein Volk’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Breua’r graig
y tarddaf ohoni
a chanu fy nghaneuon duwiol . . .
Cwympaf yn serth o’r ffordd
a llifo yn hollol fewnol
ymhell i waered ar y mhen fy hun
dros faen cwynfan
tuag at y môr.

Rwyf wedi llifeirio i lawr
gan eplesiad fy ngwaed.
Ac eto, eto yr eco ynof
pan weidda yn ingol tua’r dwyrain
y graig frau o sgerbwd,
fy mhobl,
ar Dduw.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023