Cerddi gan Mary Burdett-Jones a osodwyd gan Jules Riley ar gyfer bariton, clarinet a phiano
Cwm Hesgin Clyde Holmes (i Marion Löffler)
Ceir doppelgänger,
cwmwl dwbl
yn y dirwedd.
Ceir hedd:
nid llesg yr hesg ond llonydd
dro. Dim llwyni.
Cyfyng yw palet natur:
melyn can hen dyfiant,
cilgant du o ffrâm.
A’r llyn?
Maen wedi’i osod,
carreg sarn
dwrcwois mewn cors.
Y Bardd:
Fel garddwr
Anela at linellau
cryf, syml,
effeithiau
cynnil, tawel –
dim byd
rhy flodeuog
Fel canwr
Symuda’r tafod
yn y gloch
yn siambr atsain ei phen.
Wedi cael ei hanadl,
gydag ystum nodweddiadol
ei llaw,
o’i chalon daw telyneg.
Ei dyletswydd
Clywais gan un
sy’n darllen barddoniaeth
mewn naw o ieithoedd
nad oes dim byd i’w ddweud,
dim iaith ar ôl.
Dyletswydd rhywun
yw distewi . . .
Yn hunanymwybodol
Gall fod yn hunanymwybodol,
yn ymwybodol o’r achosion
sy’n peri’r tyndra sy’n creu
ond eto yn ymwrthod
â datrys y broblem –
heb y resoliwsion
gall y miwsig barhau.
Fel pioden
Rhaid bod awra i eirie
iddynt fod yn werth eu pwyse
mewn cerdd.
I’r bardd fel pioden
maen-nhw’n objets trouvés.
Caffi Jane (i Jane Parry)
Rhimyn aur a rhimyn arian,
tinc y pinc
a’r beirniad yn chwilio
am y blodyn glas.
Trafod celf
a thrafod miwsig,
Jane yn gweini
yn osgeiddig.
Sut mae hongian
ucheldir Elenydd
a bandstand Aberystwyth?
© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023