Dinggedicht: Ysgythriadau Marcelle Hanselaar

(i Karen Westendorf)

O fewn bocs maen llwyd ceir rhybudd
rhag agor bocs gwyn y tu fewn iddo
oherwydd yr erchyllterau a gynhwysir ynddo:

llwyfannu defod lladd à la Goya
gan blant,
plentyn arall yn y blaendir yn ciledrych,
a babi yn gorwedd fel clwt ar y llawr;

cynhyrchiad gyda dyn yn gwisgo mwgwd â chlustiau ysgyfarnog,
merch mewn gwisg balerina yn codi o’r ddaear,
gwystl wedi’i rwymo ar y llawr
a choed wedi’u cwympo wrth y bôn;

golygfa o ddyn o hil Otto Dix ar ffyn baglau wedi colli coes
a Mutter Courage o fenyw yn casglu aelodau cyrff;

ac, megis trwy gil drws nad yw’n hirgul,
pennau dyn a menyw a garcharwyd gyda’i gilydd,
eu hwynebau wedi crebachu gan boeri geiriau,
eu tafodau bron â chyffwrdd ond nid mewn cusan,
tyndra mewn dwyster du ar wyn ond dim coch eto –

llygad yr arlunydd yn brism, crism profiad.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023