Dinggedicht: ‘Le repas à Emmaus’ gan Jean-Louis Forain (1909)

(i Richard Burdett)

Sgetsh o ysgythriad yw
yn amlygu natur amlinellol profiad,
llinellau fertigol prin ar wyn yn dynodi goleuni,
yr wyneb sy’n ein hwynebu yn ei erbyn yn aneglur
a’r aelodau a’r wisg yn annelwig,
y diffyg lliw ond yn eco o’i gyfarwyddiadau,
chiaroscuro o chwith i’r hen thema
a’r diffyg cefndir yn darogan diflaniad.

Synna’r ddau ddyn wrth y bwrdd
pan adnabyddant eu cydymaith newydd ar y ffordd.

‘Pa mor bell yw hi i Emmaus?’
Felly y dechreuodd y sgwrs.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023