Dinggedicht: L’Ange de l’Annonciation

(i Olwen Jenkins)

Saif yr hen dref ar gopa bryn –
caer a fylchwyd,
strydoedd yn adleisio o ddiffyg trigolion
ac eglwys faen llwyd
na lwyddodd i ymddiosg yn llwyr
oddi wrth ei chroen melynaidd mewnol o blastr,
lle saif angel.
Nid aderyn arswydus bron marwol i’r enaid mohono
ond creadur ifanc, golau, pur
a’i esgyll hir wedi’u plygu,
yn petruso ar drothwy cyhoeddi bywyd newydd.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2022