Cân o gariad

‘Liebes-Lied’

Rainer Maria Rilke (1875-1926)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Sut y dylwn ddal f’enaid
fel na chyffyrddo â d’un di?
Sut y dylwn ei godi uwch dy ben
i gyfeiriad pethau eraill?

Hoffwn ei roi i’w gadw gyda rhywbeth coll
yn y tywyllwch mewn lle dieithr tawel
nad yw’n dirgrynu pan ddirgryna dy ddyfnderoedd.
Ond mae popeth sy’n cyffwrdd â ni,
ti a fi, fel tynnu bwa drosom gyda’n gilydd,
yn tynnu o ddau dant un llais.
Ar ba offeryn y tynhawyd ni?
A pha ffidlwr sydd yn ein dal yn ei law?
O gân felys.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023