Else Lasker-Schüler (1869-1945)
‘Liebeslied’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Dere ataf yn y nos –
cysgwn wedi’n nyddu ynghyd yn dyn.
Rwyf wedi hen alaru ar ddeffro mewn unigrwydd.
Mae aderyn dieithr eisoes wedi canu
yn nhywyllwch y bore bach
pan oedd fy mreuddwyd o hyd
yn ymladd â’i hun ac â minnau.

Mae blodau yn ymagor
ger pob ffynnon
ac mae anfarwolion yn eu dylunio eu hun
â’th lygaid.

Dere ataf yn y nos
ar esgidiau saith seren
a chariad wedi’i orchuddio
yn hwyr i’m pabell.
Cwyd lleuadau o gistiau llychlyd y nef.

Rydym am orffwys mewn cariad
fel dau anifail rhyfedd
yn y cyrs tal y tu ôl i’r byd hwn.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023