‘Berlin II’
Georg Heym (1887-1912)
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Rholiai casgenni wedi’u calcio â thar o drothwyau
warysau tywyll i’r cychod dadlwytho tal.
Cychwynnodd y badau tynnu. Hongiai mwng
o fwg huddyglyd lawr ar draws y tonnau olewaidd.
Daeth dau agerlong ac arnynt bob o gerddorfa
gan ostwng eu cyrn mwg wrth gyrraedd bwa’r bont.
Gorweddai mwg, huddygl a drewdod ar draws y tonnau budr
ger y tanerdai a’u crwyn dugoch.
Wrth fynd dan yr holl bontydd ar y cwch camlas a’n cludai
atseiniai’r cyrn fel drymiau yn y distawrwydd.
Bwriwyd y rhaffau a nofiem yn araf ar y gamlas heibio gerddi.
Yn y rhamant gwelem signalau nos y cewri o simneiau.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023
Dyma’r ail mewn cyfres o sonedau ar thema Berlin; fe’i hailrifwyd yn ‘Berlin I’, gw. Gunther Martens (gol.), Georg Heym Werke (Stuttgart, 2006), tt. 382, 421.