AnonymousM M

AnonymousM M

Statuenwälder

Coedwig law fawreddog y gorllewinlle tyf rhedyn ar fwsogl neon, ac uwchbenblodeua cen glaswyrdd ar ganghennau moel,oddi tani cân ysbrydion mwynwyr yn tincialtra rhua’r afon ar y rhaeadraua llifa llygredd o gegau’r lefelau,ond llonydd yw olion yr olwynion;cerflunia gwymon Giacomettis…

Henwr chwim

P. C. Hooft (1581-1647) ‘Geswinde grijsart die op wackre wiecken staech’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jonesgyda Margriet Boleij Henwr chwim â’i hwyliau tyn yn hollti’r awyr fainac heb ostwng hwyl yn dal i deithio o flaen y gwyntgan gyson adael pawb…

Amser maleisus

P. C. Hooft (1581-1647) ‘Nijdige tijt waerom is ’t dat gij u versnelt’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jonesgyda Margriet Boleij Amser maleisus, pam wyt ti’n cyflymuyn fwy nag arfer? Pam gwarafun imifwynhau nef presenoldeb cariad?Pa niwed a wna fy lwc iddi…

Y gloddfa glai

Annette von Droste-Hülshoff (1797-1848)‘Die Mergelgrube’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Petaet yn bwrw dy blocyn dri hyd i’r tywodfe welet gerrig yn sefyll allan o’r agen,glas, melyn, gloywgoch, fel petaigan natur stondin arwerthiant hen bethau.Does dim croen llewpart mor frith,na phetrisen…

Jerusalem

‘Jerusalem’Else Lasker-Schüler (1869-1945) cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Adeiladodd Duw o’i asgwrn cefn Balesteina,o asgwrn unigol Jerusalem. Crwydraf fel pe bawn mewn beddrod – caregwyd ein dinas sanctaidd.Gorffwysa meini yng ngwelyau ei llynnoedd marwyn lle sidan y dŵr a chwaraeai yno:…

Diwedd y byd

Else Lasker-Schüler (1869-1945)‘Weltende’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Clywir llefain yn y bydfel petai ein hannwyl Dduw wedi marwa’r cysgodion plwm sy’n syrthiocyn drymed â’r bedd. Dere’n nes inni ymguddio . . . gorwedd bywyd ym mhob calonfel mewn beddrod. Gad…

Fy mhobl

Else Lasker-Schüler (1869-1945) ‘Mein Volk’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Breua’r graigy tarddaf ohonia chanu fy nghaneuon duwiol . . .Cwympaf yn serth o’r ffordda llifo yn hollol fewnolymhell i waered ar y mhen fy hundros faen cwynfantuag at y môr.…

Cân o gariad

Else Lasker-Schüler (1869-1945)‘Liebeslied’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Dere ataf yn y nos – cysgwn wedi’n nyddu ynghyd yn dyn.Rwyf wedi hen alaru ar ddeffro mewn unigrwydd.Mae aderyn dieithr eisoes wedi canuyn nhywyllwch y bore bach pan oedd fy mreuddwyd o…

Yr un a yrrwyd ymaith

Else Lasker-Schüler (1869-1945)‘Die Verscheuchte’ cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones Gorchuddir y dydd yn llwyr gan niwl,yn ddifywyd cyferfydd bydoedd â’i gilydd – prin wedi’u hamlinellu fel silwét. Gyhyd nid oedd calon yn dyner wrthyf . . .oerodd y byd, darfu dyn.Dere,…