Aus so krummen Holz

Mae’r dderwen gam wedi marw,
yn ddall bellach i liwiau cen,
yn fyddar i gnocell y coed drawiadol,
ddim yn clywed chwa adenydd drudwyod
sy’n troi a throsi cyn clwydo
nac yn synhwyro gogwydd pinwydd tuag ati.

Ar ôl i eiriau ddeilio a disgyn o’i chorff
yn gerddi cyflawn a chrwn mewn stormydd,
yna’n grin a chyrliog wrth i’r sudd dreio,
dim ond olion sydd yn ei gwreiddiau
i rai iau sugno ohonynt,
rhwydwaith maeth
cerddi rhydd.

© hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023