Willemien Spook
‘Oever van de stad’
cyfieithiwyd gan Mary Burdett-Jones
gyda Margriet Boleij
Safaf mewn glaw sy’n pigo tyllau bychain
ger y cylchglawdd, teyrn ffôl
rhadlon priddlyd
a aeth i gysgu fel plentyn wylofus
ar wely pedwar postyn grudiog llwyd
mewn polder llawn pyllau a phwdel.
Nid wyf yn wynt, nac yn glawdd, nac yn ddŵr.
Rwyf yn draed ac yn ddwylo, yn glustiau ac yn llygaid
i weld y metro, fflat a minarét
a osodwyd fel brodyr ar y cyrion.
Teimlaf y gwynt sy’n sglentio ar hyd Schalkwijk,*
lle y mae pobl yn codi’u trwynau arno
ond man lle y caf hyn – hyn i gyd –
lle y mae Arglwydd y Gweirgloddiau yn ymgysegru
i’w fuchod, eu pennau i lawr fel myfi:
yn fy ngwneud fy hun yn fach o gywilydd
am beidio â bod yn fuwch lle y mae cymaint o wartheg,
am beidio â bod yn laswellt lle y mae’r gwyrddni’n swmpus,
am beidio â bod ag adenydd lle y mae popeth yn aderyn.
Mae crëyr uchel ei ysgwyddau
yn chwarae Bavo** ar hyd ffos Spaarne.**
Mae’n tasgu aur i’r sawl a fyn glywed
sut y mae glaw yn dawel bigo tyllau bychain
yn Schalkwijk, lle y mae pobl yn codi eu trwynau arno,
ac mae fy nghalon wedi mynd i fyw yn fy nghartref.
* Bwrdeistref fwyaf Haarlem
** Eglwys gadeiriol neo-romanésg Bavo yn ninas Haarlem.
*** Cysylltir y ffosydd sy’n amgylchynu Haarlem ag afon Spaarne.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023
Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan Willemien Spook: