Anifeiliaid Ninefe (Jona, Ôl-air)

Anifeiliaid Ninefe (Jona, Ôl-air)

Gertrud Kolmar (1894-1943)
‘Die Tiere von Ninive (Jona, Schluβwort)’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Gostyngodd y nos
bowlen aur gwelw, a diferodd
llaeth y lleuad i’r cawg copr
ar do’r tŷ gwyn,
a sleifiodd cath lwydlas a chanddi lygaid agat,
cyrcydu ac yfed.

Mewn cilfach ym muriau maluriedig teml
yr eisteddai Racham* y fwltur
yn ddisyflyd a’i adenydd ymhlŷg
a chysgu.
Y tu ôl i’r winllan mewn lle diffaith
y gorweddai asyn toredig wedi trigo.
Bwytai cynrhon yn ei lygaid twn
ac aeth ei aroglau yn ddrewdod
a halogai’r awyr pur
gan watwar y gwlith ysgafn a’i rhwydai.
Ac arhosai am yr adenydd miniog i ddisgyn,
wyneb melyn noeth hyll yr aderyn,
crafangau pigog a’r big sy’n rhwygo a difa
i gladdu’r hyn a lygrai’r ddaear cynt.
Breuddwydiai’r fwltur.

Yn agos i borth y ddinas
y gorffwysai bugail ifanc, ei ffon wrth ei ochr.
Llenwid ei wyneb ifanc wedi’i godi fel cwpan gwag
â golau llifeiriol, disglair y sêr,
gorlifodd,
a chyffyrddai eu cylchdroadau yn sisial a chanu
yn y gofod diderfyn â’i glust.
O’i gwmpas toddai cnu ei ŵyn yn nharth cymylau tenau.

Ymestynnodd plentyn, ei gorff bychan darfodedig, brwnt, wedi’i orchuddio â charpiau a briwiau,
wedi’i luchio dros drothwy beddrod,
ac aeth i gysgu.
Nid adnabyddai na thad na mam,
a dim ond ci,
un dirmygedig wedi’i yrru allan, yr un mor dlawd a sâl, wedi’i nychu a dolurus,
a grafodd ei hun, gostyngodd ei ben
a llyfu yn gariadus y bochau o dan
y cyrbibion o wallt du –
caeodd y plentyn ei ddwrn a’i daro yn ei freuddwyd.

A chododd storm â chawod drom,
storm fawr o’r dwyrain
a daeth gan ysgubo’r borfa
a dychryn y preiddiau, a chwyrlïo canghennau meirw
a chydio megis gydag ewinedd ym marf y proffwyd
gan ei thynnu a’i garwhau.

Serch hynny cerddai Jona
a hongiai’r baich uwchben Ninefe yr edrychai arni uwchben ei gorun yntau.
Ond cerddai gan synfyfyrio.

O golofnau praff castell y brenin y lluchiwyd maen wedi’i baentio,
ac roedd udo yn y storm ac roedd dolefain yn y storm, a galwodd llais:
‘Er mwyn y rhain!
Er mwyn yr anifeiliaid, y glân a’r aflan!’

Ac arswydai cennad yr Arglwydd
a syllodd;
nid oedd ond tywyllwch, ac ni chlywai ond sŵn y gwynt a hisian parhaus
a gydiodd a thynnu fel llaw ymbiliol yn ngwisg yr un a oedd yn rhuthro yn anhrugarog.
Ond ni throdd yn ôl; camai
gan dorchi a dal y fantell.

*Racham: enw Hebraeg y fwltur Eifftaidd, Neophron percnoptens, a ddefnyddir yma fel enw priod. Yn y Talmwd Babilonaidd mae’n cyfateb i’r gair Hebraeg o’r un gwreiddyn rachim, sy’n golygu ‘trugaredd’, Shira Miron, ‘Gertrud Kolmar und Chaim Nachman Bialik – Formen literarischer Renaissance zwischen Aggada und Poesie’ (2021), yn Formen des Magischen Realismus und der Jüdischen Renaissance (Bettina Bannasch a Petro Rychio, goln., 2024), tt. 118-142 (t. 132), https://www.vr-elibrary.de/doi/10.14220/9783737012140.117

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2025