Amser maleisus

P. C. Hooft (1581-1647)

‘Nijdige tijt waerom is ’t dat gij u versnelt’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
gyda Margriet Boleij

Amser maleisus, pam wyt ti’n cyflymu
yn fwy nag arfer? Pam gwarafun imi
fwynhau nef presenoldeb cariad?
Pa niwed a wna fy lwc iddi fynd yn artaith iti?

Henwr wyt ti, Amser, heb brofi erioed
grym cariad a roddir ac a felys ad-delir.
Gwae fi! llifeiria dagrau dros fy ngruddiau
wrth feddwl bod y cloc wedi’i osod yn anghywir;

O Feistr sy’n medru mesur amser ag oriawr,
methaist neithiwr ac anghofio dy fedr; yn wir
trawodd y cloc bedair gwaith mewn llai na chwarter awr,

ond ar ôl i’m cariad ymadael gyda’r wawr
tybiais na thrawodd y cloc mwy na chwe gwaith
mewn cyfnod o bron deuddeg awr.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023

Cyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Ionawr, 2024, 6.