Am y wefan hon

Prif nod y wefan hon yw gwneud cyfraniad tuag at werthfawrogiad ehangach o farddoniaeth Gymraeg gyfoes drwy gyfieithiadau Saesneg ac/neu Iseldireg o destunau gennyf i, Mary Burdett-Jones, Mererid Hopwood, Annes Glynn a gobeithio beirdd cyfoes eraill sy’n sgrifennu yn Gymraeg; mae’r cyfieithiadau Iseldireg yn waith Margriet Boleij gyda chymorth MBJ. Cesglir ynghyd yma destunau o gerddi gan MBJ yn ychwanegol i’r rhai a gyhoeddwyd yn  Lluniadau (Llyfrau Ystwyth, Aberystwyth, 2020, ISBN 978 1 78461 900 8), ynghyd â chyfieithiadau o farddoniaeth Almaeneg ychwanegol i’r rhai a gyhoeddwyd yn Lluniadau, hefyd cwpl o gyfieithiadau o gerddi Iseldireg i’r Gymraeg a wnaethpwyd gyda chymorth MB. Rydym yn ddiolchgar i Mererid Hopwood am ganiatâd i gyhoeddi’r cyfieithiadau Iseldireg hyn yma. Rwyf yn ddiolchgar i Alun Gwynedd Jones am awgrymu cyflwyno’r cyfieithiadau Saesneg ar ffurf cerddi rhyddiaith. Rhoddir dolenni lle mae’n bosibl i’r testunau Almaeneg ac Iseldireg gwreiddiol, hefyd i ddelweddau ac ati perthnasol.

Yr iaith Gymraeg yw’r fan cychwyn, felly dan Cerddi wrth ddefnyddio PC gall fod mwy nag un faner yn dynodi’r iaith neu’r ieithoedd, e.e. Saesneg, Iseldireg, y cyfieithwyd y gerdd iddi neu iddynt, lle y bydd yn ymddangos dan Poems, Gedichten. Bydd cyfieithiad o gerdd i’r Gymraeg, e.e. o’r Almaeneg neu’r Iseldireg, dan Cyfieithiadau. I darllen y gerdd yn yr iaith wreiddiol, p’un ai drwy ddolen neu gyfeiriad at waith printiedig, cliciwch ar y faner briodol. Wrth ddefnyddio symudol dewiswch yr iaith briodol a’r arlwy hambyrger (tair llinell lorweddol ar y top ar y dde).

Diolchaf i’m brawd Richard Burdett am ddylunio’r wefan ac wrth wneud hynny fentro y tu hwnt i’w Ffrangeg i Gymraeg, Iseldireg ac Almaeneg, ac am ei amynedd wrth iddo fy nysgu sut i lwytho’r testunau i fyny. Sbardunodd ei sylwadau ar fy ngherddi y gyfres o gerddi ‘Proffes y bardd’.

Diolchaf i’m brawd Paul Burdett am ganiatâd i atgynhyrchu cwpl o’i luniau, yn arbennig ‘Groléjac’, sy’n addurno’r Tudalen Cartref.

Diolchaf hefyd i’m gŵr, Philip Henry Jones, am gymorth cyfrifiadurol cyffredinol.

Gellir cysylltu â fi trwy mbj.lluniadau@gmail.com