Gofynnwyd imi sgrifennu’r libreto ar gyfer opera ar thema’r santes Gymraeg Melangell gan y cyfansoddwr Jules Riley, yr oedd yr eglwys a’i safle ym Mhennant Melangell wedi gwneud argraff ddofn arno. Dewisais ei sgrifennu yn Gymraeg a drafftiais yr hyn a ddaeth yn Act II am ei hamser yng Nghymru a phan gafodd hynny sêl bendith Jules sgrifennais Act I am ei hamser yn Iwerddon ar ei gais ef. Wrth sgrifennu cedwais mewn cof gyfyngiadau llwyfannu’r Tabernacl ym Machynlleth lle y ceir goleuadau a thaflunio cefn.
Rwy’n ddiolchgar i Hugh Parry (y Woolgatherer) am ei gyngor ar y cyfieithiad Saesneg, ac am ei awgrym efallai mai gorau fyddai perfformio’r gwaith fel oratorio.
Cyfansoddodd Jules gryn dipyn o’r sgôr cyn ei farwolaeth anhymig. Cafwyd y perfformiad cyntaf o Agorawd Melangell mewn cyngerdd gwych ar 9 Rhagfyr 2023 gan Philomusica of Aberystwyth dan arweiniad Iwan Teifion Davies.
Gellid perfformio nifer o’r unawdau fel caneuon.
Mary Burdett-Jones Ionawr 2024