Gofynnodd y cyfansoddwr Jules Riley imi ddarparu ychydig o gerddi addas i’w gosod yn gylch o ganeuon i ddathlu pen-blwydd 30 mlynedd y Tabernacl, cartref MOMA Machynlleth, lle ceir nifer o orielau chelf a neuadd gyngerdd. Awgrymais chwe cherdd a oedd eisoes wedi’u cyhoeddi yn Y Traethodydd ac a gyhoeddwyd wedyn yn Lluniadau (Aberystwyth, 2020), a sgrifennais un ychwanegol, ‘Caffi Jane‘. Sgrifennodd Jules y darn ar gyfer y cyfuniad anghyffredin o fariton, clarinet a phiano, gan gyflwyno‘r gwaith i Andrew Lambert. Cyflwynodd gopi o’r sgôr hefyd i Jane Parry, a oedd yn rhedeg y caffi yr adeg hynny.