Yr un a gafodd ei gam-drin
Gertrud Kolmar (1894-1943)
‘Der miβbehandelte’ (15 Hydref 1933)
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Mae’r golau ymlaen trwy’r nos yn fy nghell.
Safaf wrth y wal ac ni chaf gysgu,
oherwydd bob deng munud daw gwarchodwr i edrych arnaf.
Rwyf ar ddi-hun wrth y wal. Mae ei grys yn frown.
Mae’r lleill yn dychwelyd a chwerthin,
yn cael hwyl am fy mhen am weiddi a griddfan,
maent yn tynnu fy mreichiau gan ei alw’n sbort.
Suddaf ar fy ngliniau . . . ac o’r diwedd ânt i ffwrdd.
Ni welais goed, haul – ydynt wir yn bodoli?
A yw plentyn tlawd yn dal i garu ei dad?
Dim arwydd bellach, dim llythyr – ond mae gennyf wraig!
Meddent: ‘rwyt yn goch; byddwn yn dy guro di’n frown ac yn las.’
Chwipiasant fi â gwiail dur ac roedd fy nghorff yn noeth . . .
O Dduw! O Dduw! Na! Na! Does gennyf ddim ffydd,
ni weddïais ar faes y gad, yn yr ysbyty milwrol,
dim ond gyda’r nos fel bachgen bach, a Mam yn eistedd ar erchwyn y gwely.
Mae’r ddaear yn gell o fedd, yr wybren yn dwll glas.
A glywi di, rwyf yn dy wadu! Fy Nuw . . . O, cynorthwya fi!
Nid wyt yn bodoli: petaet yn bod, byddet yn tosturio wrthyf.
Dioddefodd Iesu drostoch chi i gyd; ni ddioddefaf ond drosof i fy hun.
Saf a chrebachu gan ddim ond dŵr ac ychydig o fara
am oriau bwygilydd. Mor dda yw marwolaeth!
Wedi gorwedd lawr . . . ac wedi fy nghau mewn siafft ddofn, dywyll.
Dim llusern loyw. Dim ond cwsg. Dim ond distawrwydd. Nos . . .
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2026