Annette von Droste-Hülshoff (1797-1848)
Y Säntis*
Der Säntis
cyfieithiwyd gan Mary Burdett-Jones
Gwanwyn
Blodeua’r gwinwydd, treiddia
eu hanadl addfwyn y winllan wlithog,
sigla’r awel ymhell ac yn agos
yr addurn o flodau amryliw.
Fel y consurir ac y suir o’m cwmpas
gan aderyn, gan wenynen ac iar fach yr haf,
felly y symud ei phennwn sidan
y gangen lawn grawnwin cynt.
Chwilia dyn o hyd am heulwen
a meddiannu llecyn sych
gan y sleifia’r gaeaf sy’n cilio
o hyd gyda’r nos ar y ffin.
O henwr difrifol, anferthol,
fy Säntis â gwallt gwyn!
Gyda’th fagwyrydd o glogwyni,
wedi dy glymu mewn arfogaeth o rew,
ych! Rwyt yn crynu, rwyt yn rhewi!
Haf
Ti, y bisgwydden annwyl, ysgwyd dy hun!
Ychydig o awel, gwynt gwan y gorllewin!
Os na wnei, yna cae dy ganghennau
yn dyn, ddeilen ar ddeilen.
Ni thrydar aderyn, ni chyfarth ci;
dim ond yr haid liwgar o bryfed
sy’n sïo yn ôl ac ymlaen dros y dalar
a thorheulo yn y gwres.
Ymddengys hyd yn oed dail tywyll y coed
fel petaent wedi tewhau ac yn anadlu llwch.
Gorweddaf yma fel petawn i wedi sychu yn llwyr
a phrin yn ysgwyd y gwybed i ffwrdd.
O Säntis, Säntis! O na bawn i’n gorwedd
draw – ar dy iau o glogwyni,
lle mae’r gorchuddion oer a gwyn
yn ymestyn mor ffres a llaith.
Gêm mil o ddafnau disglair:
Säntis ffodus, rwyt ti’n oer!
Hydref
Pan nydda’r tragwyddol uwch y cwm
y carped amethyst,
sigla’r pili-pala olaf
yr un mor ddisglair â’r cyntaf.
Yna ystyriaf am ychydig
sut y mae’n byw o ddydd i ddydd,
a medraf a’m llygaid ynghau
freuddwydio am wanwyn a llawenydd.
Ac eira newydd syrthio arnat,
rwyt yn brifo fy llygaid!
A wyt eisoes yn paratoi gaeaf:
gwêl dyn sut y llithra o geunant i geunant,
ac yn sydyn ymdreigla i lawr
oddi wrthyt, o Säntis, anial fedd.
Gaeaf
O lwch eira a thrwch o niwl
tyr dydd eglur o’r diwedd;
yna egyr pawb ffenestr,
edrych allan a chraffu.
Ai tai yw’r blociau draw?
Ai pwll y gofod gwastad?
Yn wir, yn yr iwnifform hwn
prin y mae’r tŵr clychau i’w adnabod.
Ac mae bywyd i gyd yn gorwedd wedi’i sathru,
fel petai wedi ei fygu dan amdo.
Ond, edrych! Yn ymyl y gorwel
daw tir byw i gyfarfod â mi.
O warchodwr, gad y föhn yn rhydd
o’th garchar o gôl!
Lle mae’r rîffiau yn ymhollti’n ddu,
rhaid iddo aros mewn cwarantîn,
y dieithryn o Lombardi;
O Säntis, gad y gwynt sy’n toddi yn rhydd!
*Brig mynydd yng ngogledd-ddwyrain y Swistir.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2026