Dan y sêr
Conrad Ferdinand Meyer (1825-1898)
‘Unter den Sternen’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Yr hwn sy’n brwydro dan yr haul, mab y ddaear,
a chwipio’n ffyrnig y ceffylau dan yr iau,
yr hwn sy’n brwydro’n ddygn tuag at nod pell
mewn cwmwl o lwch – sut y gall gredu yn y sêr?

Ond mae’r tîm yn dechrau cloffi, tywylla’r llwybrau,
dechreua’r goleuadau tragwyddol serennu;
daw’r deddfau sanctaidd yn weladwy,
gostega gweiddi’r frwydr; ceir trefn ar y dydd.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2026