Y wlad estron hardd
Joseph von Eichendorff (1788-1857)
‘Schöne Fremde’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Fe siffrwd copaon coed a dychryn
fel petai’r hen dduwiau nawr
yn gorymdeithio o gwmpas
y magwyrydd hanner yng nghladd.
Yna y tu ôl i’r myrtwydden
yn ysblander dirgel cyfnos,
a siaredi mewn breuddwyd
noson ddychmygfawr?
Pefria’r holl sêr arnaf
â golwg eirias cariad,
sieryd y pellter meddw
am lawenydd mawr i ddod.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2026