Mae’r wasg annibynnol Melin Bapur wedi cyhoeddi Scribblertown gan Mary Burdett-Jones, ei chyfieithiad Saesneg o’i nofel Gymraeg ei hun Llanllenorion.
Nofel yw hon am gyhoeddwr o Lundain sy’n symud i Gymru i brofi dyfnder ei wreiddiau. Mewn tref brifysgol ar lan y môr nid annhebyg i Aberystwyth, sydd newydd gael statws Dinas Llên UNESCO, mae’n ceisio arweiniad ystod o gymeriadau: yr ysgolhaig sydd wedi ymroi i’w waith ar draul agweddau eraill ar ei fywyd; y wraig sydd wedi aberthu llawer yn ei thro wrth ddod yn gymar iddo: yr athro sydd bellach yn ddeallusyn cyhoeddus; yr actores y mae yntau’n briod iddo; a’r arlunydd y mae ei gwaith i’w weld yn nhai’r dref. Wrth droi’r dail dysgwn am berthynas y cymeriadau hyn â’i gilydd yn y gorffennol a newid yn y persbectif wrth ddarllen am freuddwydion y prif gymeriad.
Mae Scribblertown yn waith y mae Mary wedi bod yn gweithio arno am tua degawd. Gwelodd yr Athro Bobi Jones ddrafft cynnar a’i ddisgrifio fel ‘gwaith sylweddol iawn. Mae’n tynnu’r darllenydd yn ei flaen oherwydd yr annisgwyl ddieithr yn y rhediad tra amrywiol.’
Dyma nofel gyntaf Mary, ond mae hi eisoes wedi cyhoeddi cyfrol o’i cherddi ei hun, Lluniadau (2020), ynghyd â chyfrol o gyfieithiadau Cymraeg o gerddi Almaeneg Selma Merbaum, a fu farw yn y Shoah. Mae barddoniaeth yn chwarae rhan bwysig yn Scribblertown hefyd, gan fod nifer o gerddi Mary a’i chyfieithiadau wedi’u gweu i mewn i’r testun mewn ffordd unigryw.
Dywed Mary: ‘Teitl y llyfr am flynyddoedd oedd “Symffoni” nes i mi gofio teitl nifer o ysgrifau ar ffigyrau llenyddol Llanidloes gan y newyddiadurwr o ganol y 19g. ganrif Matthew Lewis y mae fy ngŵr Philip Henry Jones wedi gwneud ymchwil arno. Maen nhw’n disgrifio tref lle’r oedd bywyd llenyddol Cymraeg ffyniannus, “Llanllenorion”, yn llythrennol “Town of litterateurs”. Wrth ystyried sut i drosi hyn i’r Gymraeg, hoffais awgrym fy nghyhoeddwr Scribblertown.’
Dywed Adam Pearce, golygydd a pherchennog Melin Bapur: ‘Mae’n fraint cael y gwaith pwysig hwn wedi’i ymddiried i ni, gwaith sydd, yn fy marn i, yn hollol unigryw mewn llenyddiaeth Gymraeg. Nid wyf erioed wedi dod ar draws llyfr sy’n cyfuno arddulliau ac hyd yn oed ffurfiau llenyddol yn y dull hwn. Mae Scribblertown yn waith heriol, arbrofol, ond mae’n dyst i dalent amlwg Mary fel nofelydd – ac fel bardd! Nid yw’n nofel “anodd”. I’r gwrthwyneb: mae’r stori yn cydio ynoch yn syth. Mae’n anhygoel meddwl mai dyma’i nofel gyntaf – ond rydym yn gobeithio nid yr olaf!’
Mae Scribblertown a Llanllenorion ar gael nawr oddi wrth www.melinbapur.cymru am £9.99+P&P.