Chwefror 2026
Cyhoeddwyd nofel gyntaf Mary Burdett-Jones, Llanllenorion, yn Ionawr 2026 gan Melin Bapur
dolen i Melin Bapur i archebu copi
Dyma nofel gyntaf y bardd Mary Burdett-Jones y cyhoeddwyd cyfrol o’i cherddi, Lluniadau, yn 2020, a chyfrol o’i chyfieithiadau o gerddi Almaeneg Selma Merbaum, Selma Merbaum Cerddi, yn 2024.
Nofel lenyddol yw hon am gyhoeddwr o Lundain sy’n symud i Gymru i brofi dyfnder ei wreiddiau yno. Yn y dref brifysgol hon mae’n ceisio cyngor gan ysgolhaig sydd wedi ymroi i’w waith ar draul agweddau eraill ar fywyd; mae hefyd yn cwrdd â’i wraig, sydd wedi llawer wrth ddod yn gymar iddo; mae’n ymweld ag athro arall sydd wedi dod yn ddeallusyn cyhoeddus, a’i actores o wraig. Gwelir gwaith arlunydd yn nhai nifer o bobl o gwmpas y dref. Dechreua ddyfalu beth yw union natur y berthynas rhwng y bobl hyn.
Dyma nofel heriol, arloesol, sy’n plethu’r presennol, y gorffennol a’r dyfodol ynghyd, nofel sy’n llawn dychymyg lle mae breuddwyd a barddoniaeth yn cael eu gweu ynghyd.
‘Dyma waith sylweddol iawn. Mae’n tynnu’r darllenydd yn ei flaen oherwydd yr annisgwyl ddieithr yn y rhediad tra amrywiol.’ Bobi Jones
Llun y clawr: Gordon Miles: The Conversation: Masked Ball
Erthygl: Nation.Cymru
‘New novel depicts Welsh town’s artistic scene’
Llanllenorion has been described as conveying “a completely new voice and perspective in the Welsh-language” . . . the novel describes a seaside university town not unlike recently designated UNESCO City of Literature Aberystwyth . . .
Adam Pearce, editor and owner of Melin Bapur: “It is a privilege to have this important work entrusted to us, a work which is, in my opinion, quite unique in Welsh literature. I have never come across a book which combines styles and even literary forms in this way.’
Erthygl: Golwg360
Llanllenorion – ‘nofel heriol, arloesol’
Non Tudur: ‘Trwy ddadleuon Susan fe gawn sylwebaeth graff iawn ar wleidyddiaeth a chenedlaetholdeb Cymreig. Mae’r cymeriad yn y nofel yn honni fod Saunders Lewis wedi defnyddio iaith debyg i iaith y Natsïaid ac mae hi’n rhybuddio rhag defnyddio termau fel ‘mewnlifiad’’
Cyfweliad:
S4C Prynhawn Da, Clwb Llyfrau 4 Chwefror 2026