Fel ar ddydd gŵyl yr â’r gwladwr

Friedrich Hölderlin (1770-1843)

‘Wie wenn am Feiertage’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Fel ar ddydd gŵyl yr â’r gwladwr
i edrych ar y cae yn fore
a mellt o hyd yn taro o’r nos gynnes
i glaearu, taran yn seinio o bell,
yr afon yn dychwelyd y tu fewn i’w glannau,
y llawr yn glasu,
y winwydden yn diferu o law
llawenhaol, a choed y gelli
yn disgleirio yn yr haul llonydd:

felly y saif mewn hindda y rhai
na ddysg dim meistr ar ei ben ei hun
ond natur ryfeddol, hollbresennol mewn coflaid dyner,
bwerus, dduwiol a hardd.
Felly, pan ymddengys iddi gysgu ar adegau o’r flwyddyn
yn y nefoedd, ymhlith y planhigion neu’r pobloedd,
galara hefyd wynepryd y beirdd.
Ymddengys iddynt fod ar eu pennau eu hunain,
ond o hyd yn rhagweld,
oherwydd rhagwêl hi ei hun hefyd.

Ond nawr daw’r wawr!
Arhosais i weld ei dyfodiad,
a’r hyn a welais – bydded i’m gair fod yn sanctaidd –
oherwydd ei bod hi ei hun yn hŷn na’r oesoedd
ac uwchlaw duwiau’r gorllewin a’r dwyrain,
natur yn deffro gyda chynnwrf arfau,
ac o’r entrychion hyd yr affwys
yn ôl y rheolau caethaf, fel cynt,
wedi’i chenhedlu o anhrefn sanctaidd,
ymdeimla’r hollgreadigol eto â gorawen.

Ac fel y disgleiria’r tân yn llygaid y dyn
sy’n llunio camp aruchel,
felly yr enynnir tân
gan arwyddion a gweithredoedd y byd
yn enaid y beirdd.
A’r hyn a ddigwyddodd cynt, ond prin wedi’i ganfod,
dim ond nawr yn amlwg,
a’r rhai ar ffurf gweision
sydd yn trin y tir dan wenu yn cael eu hadnabod,
y rhai bywiog ym mhob man, grymoedd y duwiau.

A ofynni di pwy ydynt? Mewn caneuon
nofia eu hysbryd pan dyf o haul y dydd
a daear gynnes, a stormydd, y rhai yn yr awyr
ac eraill parotach yn nyfnderoedd amser,
yn llawnach ystyr ac yn fwy hyglyw i ni,
yn nofio rhwng nef a daear ac ymhlith y pobloedd.
Meddyliau ysbryd cyffredin ydynt,
yn dibennu’n dawel yn ysbryd y bardd

hyd nes – wedi’i daro yn gyflym, yn hysbys ers amser
i’r annherfynol, yn dirgrynu
gan atgof ac wedi’i ennyn
gan belydryn sanctaidd, a ffrwyth
wedi’i eni mewn cariad, gwaith duwiau a dynion –
y llwydda’r gân i dystio iddynt.
Felly y trawodd, fel y dywed y beirdd,
pan ddeisyfai hi weld y duw,
ei fellt ar dŷ Semele,
ac wedi’i tharo gan dduw
rhoddodd enedigaeth i ffrwyth storm,
Bacchws sanctaidd.

Ac felly yf meibion y ddaear
y tân nefol nawr.
Eto gweddus i ni feirdd sefyll
â phen heb orchudd o dan stormydd Duw,
cydio ym mhelydryn y Tad ei hun â’n dwylo
ac estyn i’r bobl wedi’i orchuddio mewn cerdd
y rhodd nefol.
Oherwydd dim ond â chalon lân,
fel plant, dim ond â dwylo diniwed,

ni ddeifia pelydryn pur y Tad y galon,
ac wedi’i chynhyrfu
gan ddioddef poen y rhai cryfach
erys yn y stormydd Dduw sy’n gyrru lawr,
pan agosâ
saif y galon yn gadarn.
Ond gwae fi!

os dywedaf yn syth
imi agosáu i edrych ar y nefolion,
byddent eu hunain yn fy nhaflu i, yr offeiriad gau,
i’r tywyllwch ymhlith y rhai byw
er mwyn imi ganu cân o rybudd i’r rhai craff.
Yna

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024