Rainer Maria Rilke (1875-1926)
‘Der Apfelgarten’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
Tyrd yn syth ar ôl y machlud
a gweld gwyrddni’r borfa gyda’r hwyr;
onid yw fel petaem wedi’i gasglu
ers tro a’i gynilo ynom ni,
er mwyn yr awr hon o deimladau ac atgofion,
gobaith newydd, llawenydd bron wedi mynd yn angof,
o hyd wedi’u cymusgu â’r tywyllwch o’r tu fewn,
ei wasgaru yn feddyliau o’n blaen
o dan goed tebyg i eiddo Dürer
sydd gan ddwyn baich can diwrnod gwaith
yn drymlwythog o ffrwythau gorlawn,
yn gwasanaethu yn amyneddgar,
yn ceisio, fel yr hyn sydd y tu hwnt i bob mesur,
godi’r hyn y gellid o hyd ac ymroi,
os bydd dyn yn fodlon, trwy oes hir i chwennych
dim ond yr un sydd a thyfu a distewi.
hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2024