Huldrych Zwingli (1484-1531)
‘Gebetslied in der Pest’
cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones
(ar ddechrau’r salwch)
Cynorthwya fi, Arglwydd,
yn yr argyfwng hwn!
Credaf imi glywed
angau wrth y drws.
Saf allan, Grist,
gan iti ei orchfygu!
Galwaf arnat:
os d’ewyllys yw,
tyn allan y saeth
sydd yn fy nghlwyfo –
nid yw’n gadael imi awr
nac o lonyddwch nac o orffwys.
Os wyt am imi farw
yng nghanol fy nyddiau,
rwyf yn fodlon.
Gwna yn ôl d’ewyllys.
Does dim yn ormod imi:
dy lestr di wyf fi:
trwsia fi neu fy nhorri.
Pan gymeri f’ysbryd
o’r ddaear hon
gwna fel na fydd yn gwaethygu
na llychwino bywyd duwiol eraill.
(yng nghanol y salwch)
Cysura fi, Arglwydd!
Gwaethyga’r salwch,
cydia poen ac ofn
yn fy nghorff ac enaid.
Felly, dere ataf, f’unig gysur,
â gras sicr i achub
yr hwn sy’n ei erfyn
ac yn gobeithio ynot,
ac felly’n dirmygu
holl dda a drwg y byd hwn.
Nawr daw’r diwedd.
Mud yw fy nhafod,
ni fedraf yngan gair;
hysb yw fy holl synhwyrau.
Felly mae’n bryd iti ymladd
ar fy rhan o hyn allan
os nad wyf yn ddigon cryf
i wrthsefyll yn ddewr elyniaeth
y diafol a’i law ddrygionus.
Ond er cymaint ei ddicter,
erys byth f’enaid
yn ffyddlon i ti.
(wrth wella)
Iach, Arglwydd, Iach!
Credaf imi ddychwelyd
yn ddianaf.
Ie, os meddyli na fydd
gwreichionyn drwg
yn fy rheoli mwyach ar y ddaear,
rhaid i’m ceg ynganu
dy glod a’th ogoniant
yn uwch nag erioed o’r blaen,
beth bynnag sy’n digwydd,
yn syml ac â’m holl galon.
Er bod rhaid dioddef
ryw ddiwrnod benyd angau
ac efallai artaith fwy
nag a gefais, Arglwydd,
pan fu bron imi ddarfod,
goddefaf ergydion malais
y byd hwn yn llawen
er mwyn y wobr â’th gymorth,
heb yr hwn ni fedr un dim
fod yn berffaith.
© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Traethodydd, Ebrill 2020, 71-2.