Else Lasker-Schüler (1869-1945)
‘Weltende’

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Clywir llefain yn y byd
fel petai ein hannwyl Dduw wedi marw
a’r cysgodion plwm sy’n syrthio
cyn drymed â’r bedd.

Dere’n nes inni ymguddio . . .
gorwedd bywyd ym mhob calon
fel mewn beddrod.

Gad inni ddwfn gusanu . . .
cura hiraeth am y byd
y mae’n rhaid inni farw o’i herwydd.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023