Dinggedicht: Tirlun W. König, Schwarzwald

(i Kornelia Struzyna)

Cynrychiola pren goed
a’r cylchoedd tyfiant yn dylunio
llawnder canghennau,
ymlwybra heol ar hyd llethr
sydd bron yn gordoi to serth tŷ
na chyffyrddwyd gan ryfel;
clywir aroglau llwch o’r ffrâm
sy’n gwrthddweud arlliwiau cwyr yr wybren;
ni chlywir sŵn y gwynt
a chwilir yn ofer am ffigwr.

©hawlfraint Mary Burdett-Jones 2023